GETHIN GRIFFITHS
Un o fy hoff artistiaid unigol, Gareth Bonello, neu ‘The Gentle Good’, sydd yn cael lle ar ein rhestr heddiw. Ar ôl mwynhau ei albwm newydd, ‘Adfeilion / Ruins’, yn wirioneddol, penderfynais dyrchu’r archif a mynd yn ôl i 2011 ar gyfer Trac y Dydd #6.
Mae gan Bonello rhyw ddawn i greu llonyddwch yn ei gerddoriaeth. Nid llonyddwch diflas, fodd bynnag, ond rhyw lonyddwch pleserus, sydd yn gwneud i chi suddo i’ch soffa wrth wrando ar ei lais, sydd fel paned dda o de ar ddiwrnod gwael. Ond, mae’n rhaid i mi ddweud mai ei feistriolaeth o’r gitâr acwstig sydd yn fy nghyfareddu. Mae ei allu i gyfeilio iddo’i hun yn ddi-ffws, di ffwdan, a hynny’n dechnegol berffaith, yn creu gwely rhythmig a chordiol cyfforddus fel sail i bob cân.
Mae ‘Llosgi Pontydd’ yn crisialu Bonello i mi. Gitâr ag arddull fingerpicking cyson a chywrain, alawon lleisiol naturiol, a gwaith offerynnol hynod chwaethus yn gefndir i bedwar munud o bleser pur. Ymddangosai fel seithfed trac yr albwm Tethered for the Storm (2011), ac ers i fy ffrind chwarae’r gân hon a’m cyflwyno i gerddoriaeth y Gentle Good, rydw i’n mynd yn ôl at ei gerddoriaeth yn gyson wrth chwilio am rywbeth cyfarwydd. Os nad yw gwaith Gareth Bonello’n gyfarwydd i’ch ffrind chi, ‘dw i’n awgrymu’n gryf y dylech chi eu cyflwyno nhw i’r swynwr o Gaerdydd.
Bydd Gethin yn adolygu albwm newydd The Gentle Good, ‘Ruins/Adfeilion’, ar raglen Lisa Gwilym nos Fercher yma!