Trac y Dydd #3 – Fratolish Hiang Perpeshki gan Gwenno

CHRIS ROBERTS

cover_lp_gwenno

Y Dydd Olaf gan Gwenno ydi un o’r albyms Cymraeg mwyaf llwyddiannus yn y blynyddoedd diwethaf. Gan gychwyn ei bywyd ar label Peski yn Nghymru, aeth ymlaen i gael ei rhyddhau eto ar Heavenly gan ddenu sylw ar draws y byd, gan gipio gwobrau Albwm y Flwyddyn yr Eisteddfod a’r Welsh Music Prize ar y ffordd. Mae’r albwm wedi ei ysbrydoli gan nofel o’r un enw gan Owain Owain a’r geiriau yn sôn am chwyldro ac am ddyfodol dystopaidd gyda datblygiad technoleg. Obsesiwn diweddar gen i ydi’r gyfres deledu Black Mirror ac mae themâu’r albwm yn fy atgoffa i ohono – weithiau mae’r dyfodol yn gallu edrych yn dywyll iawn. Tybed a oes gwersi i ddysgu yn ngeiriau Gwenno am y ‘gymdeithas yn cilio a thref yn colli tir’?

Ond er gwaethaf y tywyllwch, ymgolli yn y foment a creu cerddoriaeth o’r ‘tonnau dibwys a dychrynllyd’ yw cri Gwenno yn Fratolish Hiang Perpeshki, ac mae mor hawdd gwneud hynny. Mae’r gân yma yn sefyll allan fel un o’r cryfaf ar yr albym ac mae’r bleeps a’r blips yn creu darlun clir yn fy mhen o bobl yn dawnsio a chwyrlio wrth i’r byd yn disgyn i ddarna’ o’u cwmpas!

 

Leave a Reply

Fill in your details below or click an icon to log in:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Change )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out /  Change )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out /  Change )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Change )

w

Connecting to %s