Mae rhestr chwarae i bob achlysur ar Spotify – os mai dim ond cerddoriaeth Saesneg ydy’ch pethau chi.
Na phoener – mae hogia’ Sôn yn llenwi’r bwlch. Dilynwch ein prif restr chwarae, ‘Trac y Dydd’, a fydd yn ychwanegu traciau amrywiol bob dydd – yn dibynnu ar sut ydym ni’n teimlo! Bydd yna adolygiad cryno ar y wefan i gyd-fynd, hefyd.
Unrhyw achlysur arbennig? Bydd na Sôn am hynny hefyd. Os ydym ni’n meddwl bod rhyw achlysur neu thema yn haeddu rhestr chwarae ei hun, dyna wnawn ni. Cliciwch y linc, a gadewch i’r hogia eich tywys ar deithiau amrywiol o’r gerddoriaeth orau yn yr iaith Gymraeg.