GETHIN GRIFFITHS
Rydw i, fel myfyriwr MA yn Ysgol Cerddoriaeth Prifysgol Bangor, yn hen gyfarwydd ag Archif Bop Cymru. Gan ddilyn amryw o fodiwlau yn ymwneud â cherddoriaeth bop, gyda Dr Craig Owen Jones a’r Athro Pwyll ap Siôn, mae arbenigedd eang aelodau o staff yr Ysgol yn y maes yn sicr wedi dylanwadu ar fy astudiaethau hyd yn hyn. Fy mwriad, neu fy nyletswydd efallai, yw parhau yn yr un trywydd.
Mae’r Archif yn storfa o hen recordiau, cylchgronau, offerynnau a.y.y.b. sy’n ymwneud â hanes cerddoriaeth boblogaidd yng Nghymru. Hebddi, buasai hen hanesion diddorol y sîn dros y blynyddoedd yn diflannu mewn bocsys yn ‘stafelloedd gefn hen rocars o’r 70au. Yn ddigon lwcus, mae’r archif yn galluogi i rywun bori drwy’r hanesion hyn er mwyn ysgogi, a rhoi cymorth i astudiaethau newydd ac arloesol.
Yr archif a’i chynnwys oedd y rheswm pennaf dros ddewis pwnc fy astudiaeth bresennol. Ar ôl gweld tomen o ‘ffansîns’ Cymraeg (cylchgronau amgen, amaturaidd a grewyd gan ddilynwyr y sîn ar ddiwedd yr wythdegau, a thrwy gydol y nawdegau), penderfynais fynd ati i ymchwilio i’r hyn y maent yn eu cynrychioli’n wleidyddol ac yn gymdeithasol.
Od iawn, felly, oedd dod ar draws y rhaglen yma heddiw! Mae’n trafod yr archif yn gyffredinol i ddechrau, yna’n sôn am gitâr cyntaf Dafydd Iwan, ond yna’n trafod hanes creu’r ffansîn ‘Groucho neu Marx’. Mi fuaswn i wedi hoffi clywed llawer mwy am gynnwys yr archif, ac am hanes y ffansîn a dweud y gwir – ond mi fuasa’ rhywun yn gallu mynd ‘mlaen am byth.
Gwrandewch arni.. I’r rhai ohonoch sydd yn cofio’r cyfnod, cewch ddôs o nostalgia, ond i’r rhai ieuengach ohona’ ni – byddwch yn genfigennus fod ffasiwn beth wedi bodoli.
BBC Radio Cymru – ATSAIN O’R ARCHIF – Archif Bop Cymru
Byddaf yn ysgrifennu ychydig am ffansîns yn Sôn am Sîn wrth i’r astudiaeth fynd yn ei blaen.
Bydd cyfres ‘Atsain o’r Archif’ gyda Lisa Gwilym yn parhau dros yr wythnosau nesaf, gan ymweld ag archifau gwahanol o gwmpas y wlad.