Croeso!

Croeso i Sôn am Sîn, gwefan sydd yn trafod y gerddoriaeth Gymraeg ddiweddaraf.

ERTHYGLAU: Porwch drwy’r erthyglau yn y ffrwd isod, neu dewisiwch gategori.

PODLEDIADAU: Ydych chi’n un gwell am wrando na darllen? Gwrandewch ar ein podlediadau ni yma!

Diddordeb mewn cyfrannu at ein blog? Ebostiwch ni – blog.sonamsin@gmail.com

Dilynwch ni ar

|| TwitterFacebookInstagram ||

Traciau Amgen Criw SaS!

Ar ôl yr holl drafod am gerddoriaeth amgen, mae’n bryd i gyfranwyr Sôn am Sîn roi eu pennau ar y bloc a phleidleisio ar gyfer Siart Amgen Rhys Mwyn. Nid yw’n syndod eu bod i gyd wedi mynd ar drywydd gwbl wahanol i’w gilydd…

Y Cyrff.jpg

Y Cyrff oedd enillwyr y llynedd, gyda’u hanthem amrwd ‘Anwybyddwch Ni‘ (Llun: BBC).


Aled Huw Russell

OSHH – Hen Hanesion

Dwi’n caru’r gân yma gan bod dylanwad fy hoff fand Cymraeg yn treiddio drwyddi. Gallaf glywed y tebygrwydd rhwng Hen Hanesion a chân fel ‘Cau Dy Lygaid’ gan Yr Ods, cân arafach y mae Osian yn ei harwain, tra bod Griff Lynch yn tueddu tuag at ddylanwadau mwy synth-pop. Mae awyrgylch chwedlaidd Big Leaves i’w deimlo yn y gân, ond er hyn, mae’r alawon synth yr ydym ni’n eu cysylltu hefo’r Ods yn amlwg i’w clywed.


Bethany Celyn

Gwenno – Chwyldro

Lle mae dechrau sôn am Gwenno? Ymestynna ei dylanwad tu hwnt i Gymru gyda nifer yn gwirioni ar yr hyn mae hi wedi cyflawni. A be mae Gwenno Saunders wedi cyflawni, gofynnwch chi? Rhywbeth sydd wedi dal sylw nifer fawr o bobl. Mae hi wedi creu soundscape unigryw ei hun, bron fel byd cerddorol arall lle y gallai herio patriarchaeth a thraddodiad a myfyrio sut brofiad yw byw o fewn cymdeithas leiafrifol. A theimlwn wefr y campwaith hwn ar ei ucha’ yn Chwyldro, cȃn gyffrous sy’n sicr yn haeddu ei lle ar siart amgen.


Chris Roberts

FFUG – Llosgwch y Ty i Lawr

Fe wnaeth Ffug (neu Y Ffug fel yr oeddent yn galw eu hunain bryd hynny) gorddi’r dyfroedd cryn dipyn wedi iddynt ennill Brwydr y Bandiau C2 yn 2013. Tra bod eu beirniadaeth o’r gymdeithas Gymraeg yn Cariad Dosbarth Canol Cymru wedi denu’r penawdau, Llosgwch y tŷ i Lawr ydi’r gân sydd yn sefyll allan i mi ar yr EP Cofiwch Dryweryn. Maent yn sianelu ysbryd punk rock bandiau fel y Clash wrth i’r gerddoriaeth upbeat, poppy wrthgyferbynnu yn llwyr gyda chyfarwyddiadau tywyll y prif leisydd. Clywir hefyd rwystredigaeth Iolo hefo’r disgwyliadau uchel sydd yn cael ei roi arno – “cofiwch wneud pob peth sy’n dda a dim byd anghywir.” Fel gweddill yr EP, dwi’n teimlo fod Llosgwch y Tŷ i Lawr yn dal yn berffaith y cyfnod anodd o drio ffurfio hunaniaeth eich hun yn eich arddegau wrth sylweddoli na allwch chi blesio pawb. Mae’n hawdd anghofio gymaint oedd yr Cofiwch Dryweryn yn sefyll allan ar y pryd o ran yr hyn oedd gan y band i’w ddweud – fe agorodd Ffug y drws i lawer o fandiau’r sîn heddiw fel Hyll a Adwaith i allu canu yn ddi-flewyn-ar-dafod. Mae’r gân hon yn un o’n caneuon amgen gorau gan ei bod hi’n llawn agwedd, ddim yn cymryd ei hun ormod o ddifri, ac wedi cael effaith wirioneddol ar y sîn yng Nghymru.


Elan Grug Muse

Anweledig – 6.5.99

Dwi’n rhy ifanc i gofio y bleidlais dros ddatganoli, a sefydlu’r senedd, ac eto mae’r state-of-the-union, llif yr ymwybod yma wastad yn gneud i fi aros a gwrando. Mae hi’n bryfoclyd a gonest, yn anesmwytho ac yn herio. I fi, mae hi’n dal rhywfaint o’r cymhlethdod, rhwystredigaeth a’r gwrthddeud hynny sydd ynghlwm a bod yn Gymro neu Gymraes.


Elin Wyn Erfyl

Adwaith – Lipstick Coch

Mae Adwaith yn arbennig. Ers gweld nhw’n perfformio yn un o nosweithiau Twrw yn Clwb Ifor Bach dwi’n hooked. Dyma fand ifanc ac unigryw gyda cherddoriaeth llond Ohrwurms a geiriau clyfar – fedrai’m disgwyl iddyn nhw ryddhau mwy.


Gethin Griffiths

Tynal Tywyll – Y Bywyd Braf

Mae’r ymdeimlad o nostalgia yn un od. Yn enwedig pan nad ydy o’n eich tywys chi i rywle penodol yn eich hanes. Fel milenydd (os oes yna ffasiwn air), mae pellafion fy nghof yn ymestyn i droad y mileniwm, ac am ryw reswm, mae meddwl am y cyfnod hwnnw’n gwneud i mi deimlo’n reit od. Y darlun erchyll hwnnw o Blair a’r frenhines yn croesi eu dwylo ar nos galan, llinynnau oesol John Barry yn cael eu bastardeiddio gan Robbie Williams, a chyfnod newydd o obaith ffug.

Yn fwy penodol a mwy cerddorol na hynny, un offeryn sydd yn fy atgoffa o’r cyfnod hwn yw’r piano. Nid baledi cawslyd na solos jazzy hir, chwaith, ond stabs cordiol dros gerddoriaeth ddawns. Unwaith eto, wrth gwrs, roedd cerddoriaeth House, a cherddoriaeth Piano House yn benodol, yn perthyn i hanner cyntaf a chanol y nawdegau, efallai, sydd yn ychwanegu at yr ymdeimlad hwn o ‘nostalgia ffug’ heb un ‘amser penodol’. Wel, mae’r gân hon yn dod o 1992 – cyn i mi gael fy ngeni, felly mae’n rhaid iddo fo fod yn ffug! Y gân, yw ‘Y Bywyd Braf’ gan Tynal Tywyll, er ei bod hi’n rhoi nod go amlwg i’r Happy Mondays.

I unrhyw un arall, mae’r uchod yn swnio fel nonsens llwyr. Ond dyma all cerddoriaeth amgen wneud weithiau… Gan nad yw ‘Bywyd Braf’ yn cael ei chwarae hyd syrffed gan y byd a’i gi, mae modd iddi olygu rhywbeth personol i mi, na chaiff fyth ei ddifetha gan wrandawyr carioci y 40 mawr.


Rhys Dafis

Los Blancos – Clarach

Gallen i fod wedi dewis cân gan rywun fel Ffa Coffi Pawb, Jarman, Datblygu neu hyd yn oed Meic Stevens, ond gan taw ‘nghwyn mwyaf i am y ‘40 Mawr’ yw bod nhw’n ailadrodd yr un hen crap flwyddyn ar ôl blwyddyn yn hytrach na cherddoriaeth gan fandie ifanc, bydde hynny ychydig yn rhagrithiol. Felly dwi wedi penderfynu mynd am gân gan un o fandie newydd mwya cyffrous y sîn ar y funud, sef Clarach gan Los Blancos, cynnyrch diweddara indie production line Caerfyrddin. Maen nhw wedi bod yn y stiwdio yn ddiweddar a dwi’n edrych mlaen yn arw i glywed y stwff newydd.

Dwi’n hoffi’r sengl newydd, ‘Mae’n Anodd Deffro Un’, ond fy hoff gân i heb os yw ‘Clarach’. Mae hi’n gân digon syml, ond mae ganddi gytgan ffantastig a geirie gwych. Dwi’n methu helpu ei chymharu hi ychydig gyda ‘Far Rockaway’ gan Iwan Llwyd yn y ffordd mae hi’n creu darlun ffantasïol o rywle sydd mewn gwirionedd yn ychydig o dwll. Ac am hynny’n unig, mae’n haeddu lle ar y siart.


Marged Gwenllian

Anelog – Melynllyn

Mae’r gân i gyd yn llifo’n ddiymdrech, ac mai’n llwyddo i fy ngwneud i’n hollol ymlaciedig bob tro. Mae’r gitârs a’r lleisiau meddal yn plethu’n wych, a’r “www”s yn freuddwydiol a hyfryd. Mae hi’n datblygu rhywfaint wrth fynd ymlaen, drwy ehangu ar y riffs yn lle’r ailadrodd hamddenol a geir ar y cychwyn, ond ddim yn ormodol chwaith nes ei bod hi’n mynd yn rhy brysur a byrlymus. Maen nhw hefyd yn cyflwyno mwy o offerynnau electronig wrth fynd ymlaen sy’n rhoi sŵn gwahanol a newydd i’r gân, ac mae’n sicr yn gweithio. Nid yw’r offerynnau’n tynnu sylw fel synau anarferol o gwbl, oni bai dy fod ti’n gwrando allan amdanynt yn y cefndir. Mae’n bosib nad ydy’r clashes yn harmoni’r “www”s yn cael eu llwyr werthfawrogi tan y’i ceir nhw’n acapella ar y diwedd, ac mae’r rheiny’n hyfryd ar y diwedd yn coroni cân wych.


Miriam Elin Jones

Llwybr Llaethog ac Ifor ap Glyn – Fydd y Chwyldro Ddim ar y Teledu, Gyfaill

Does yna’r un siart amgen yn gyflawn heb brenhinoedd amgen y sin gerddorol Gymraeg, sef Llwybr Llaethog. Dewisais hon am ei bod yn addasiad Cymreig o feirniadaeth Gil Scott-Heron o’n byd materol ac am ei bod yn dy gicio’n galed yn dy gylla dosbarth canol gyda sass yn diferu o berfformiad spoken word Ifor ap Glyn.


Owain Williams

Hyll – Efrog Newydd, Efrog Newydd

Yn ffres ar gyfer Haf 2017, oedd EP y band roc amrwd a chyfoes o’r ddinas fawr, Hyll. Er bod sawl cân wedi fy nharo’n syth, y tiwn ‘Efrog Newydd, Efrog Newydd’ sy’n sefyll allan fwyaf. Mae’r arddull yn fy atgoffa o The Strokes neu’r Libertines, ac mae’r alaw fachog a chofiadwy yn ei gwneud hi’n anodd osgoi chwibanu’r tiwn ar ôl y gwrandawiad cyntaf.  ‘Dw i’n gefnogwr mawr o’r cyfuniad clyfar rhwng y naws hafaidd, cynnes, a’r geiriau treiddgar a gobeithiol. Mae’r geiriau hynny, i mi, yn cyfleu’r thema o ddianc, ac mae’r llinell ‘Dwi ‘di deud o’r blaen does dim byd yn digwydd, ysmygu trwy’r dydd yn siarad am y tywydd’ yn sicr yn dal sylw. Gobeithio bod albwm ar y gorwel gan y dinasyddion.


Ydych chi’n cytuno? Ydy’ch hoff gân amgen chi wedi cael ei hanwybyddu? Cofiwch adael i ni wybod isod, a chofiwch adael i griw rhaglen Recordiau Rhys Mwyn wybod drwy ebostio rhysmwyn@bbc.co.uk.

Y Sôn #3: Ma’ hon yn garreg filltir bersonol i ni…

Cofiwch danysgrifio i’n ffrwd ar iTunes!

Coeliwch neu beidio, rydym ni wedi recordio trydydd pennod Y Sôn! Y tro hwn bydd Chris a Geth yn trafod cerddoriaeth amgen a thraciau agoriadol albyms, yn ogystal â’r dadansoddiadau arferol o’r cynnyrch diweddaraf!

Chwiliwch allan am fwy nac un podlediad gwahanol ym mis Rhagfyr!


Dyma restr chwarae Spotify o’r caneuon a drafodwyd yn ystod y podlediad:

Er mwyn tanysgrifio i’n podlediadau, dilynwch y cyfarwyddiadau yma

Beth yw ‘Cerddoriaeth Amgen’ i ni?

Ar y 18fed o Ragfyr eleni, bydd rhaglen Recordiau Rhys Mwyn yn cyhoeddi eu ‘Siart Amgen’ flynyddol. Mae Gethin Griffiths yn gweld cyfle perffaith yma i feddwl ychydig yn ddyfnach ac ystyried beth yw ‘amgen’ yn union?
Datblygu

Datblygu: Ymddangosodd y band dadleuol a blaengar deirgwaith yn siart y llynedd.

GETHIN GRIFFITHS

Mae llawer o sôn wedi bod ar y blog yn ddiweddar am gyflwr a thueddiadau cyffredinol cerddoriaeth Gymraeg yn 2017. Mae rhywun yn pendroni sut y bydd Cymru, ugain mlynedd o rwan, yn cofio’r flwyddyn gerddorol hon? Pa mor bwysig oedd 2017 i’r sîn? Er mwyn ceisio ateb y cwestiwn hwn, mae’n rhaid gosod fframwaith ar yr hyn sydd wedi bod yn digwydd dros y blynyddoedd diwethaf. Rydw i’n hoff (yn or-hoff, efallai) o roi pethau mewn cyfnodau. Mae’n duedd academaidd a newyddiadurol, sydd yn gallu codi mwy o broblemau yn aml na’r hyn y mae’n ei ddatrys, ond er mwyn deall beth sydd wedi digwydd yn ystod y flwyddyn hon, rhaid edrych arni mewn cymhariaeth â’r blynyddoedd a fu.

Er nad ydw i’n hoffi pwysleisio pwysigrwydd yr Eisteddfod i’r sîn yn ormodol, gellir dadlau bod dwy Eisteddfod yn gweithio’n berffaith fel dau ben i gyfnod pwysig yn hanes cerddoriaeth yng Nghymru. Er i’r diwylliant fod yn bragu’n dawel ers tua 2009, mi ddigwyddodd yna rywbeth yn Eisteddfod Dinbych 2013, ddaeth a phopeth ynghyd. Heb os, roedd Sŵnami a Candelas wedi creu cynnwrf newydd yn y sîn, er eu bod yn gweithio ar sylfeini Yr Ods, Hud a’r Bandana. Ar ôl i Gymru ddygymod â dirywiad ‘Cŵl Cymru’ yn negawd cyntaf y mileniwm, roedd cenhedlaeth newydd o fandiau’n codi, nad oedd erioed wedi derbyn sachau o arian PRS, a oedd yn troi at fandiau fel yr Arctic Monkeys a Two Door Cinema Club yn hytrach na’r Super Furries a’r Gorky’s fel eu prif ddylanwadau. Denodd y bandiau hyn lawer o griwiau ifanc i’w gigs, a daeth wynebau newydd drwy ddrysau gigs ar hyd a lled y wlad.
Wedi tair mlynedd o ryddhau cynnyrch o safon eithriadol o uchel, fel Bodoli’n Ddistaw (2014) a Sŵnami (2015), ac ar ôl i ambell artist, fel Yws Gwynedd a’r Eira, wneud y mwyaf o’r hinsawdd newydd hwn, daeth sîn yr indie kids Cymraeg i oed mewn un digwyddiad yn Eisteddfod y Fenni, 2016. Wrth i’r bandiau hyn gael cyfle i chwarae ar lwyfan y Pafiliwn, gyda cherddorfa, roedd yn symbol clir i mi mai dyma oedd y norm rwan, ac mai dyma oedd ein ‘prif lif’ ni.

Erbyn Eisteddfod 2016, roedd yr artistiaid hyn, yn enwedig Sŵnami, yn tawelu yn sylweddol o ran rhyddhau cynnyrch a pherfformio’n fyw, a chafwyd yr ymdeimlad cyfarwydd hwnnw fod y bandiau hyn wedi cyrraedd brig y sîn, a dyna ni. Fodd bynnag, yr hyn nad oeddwn i’n ei sylweddoli ar y pryd, oedd bod rhywbeth newydd ar droed. Gosodwyd y llawr. Ie, y llawr. Roedd cryfder diwylliant yr indie kids (neu’r ‘indie boys’, yn hytrach), yn lawr ddigon cadarn i gynnal diwylliant newydd, tanddaearol, a oedd yn prysur wasgu eu bysedd drwy’r tyllau yn y pren. Roedd gan y criw a oedd yn bloeddio o dan y trawstiau gwestiynau i’w gofyn, materion i’w codi â’r math o ddiwylliant a grëwyd dros y blynyddoedd diwethaf. Pam indie? Ydi riffs ar y gitârs yn hanfodol bwysig? Oes angen i bawb wisgo catalog Topman a River Island? Ac wrth gwrs, Ble Mae’r Merched?…

2017 oedd y flwyddyn lle y chwalwyd y llawr hwnnw. Daeth labeli fel Libertino a JigCal i herio’r tresi ac i gyflwyno meddylfryd gwbl wahanol. Wrth iddynt wrthwynebu rhywbeth, boed yn fwriadol neu beidio, roedd modd eu cymharu. Wrth eu cymharu, gellir dweud eu bod nhw’n ‘rywbeth arall’, neu yn syml, yn ‘Amgen’.


Beth yw ‘Amgen’?

Ond ydy’r term hwn yn golygu unrhywbeth, go iawn? Mae’r term, yn ei hanfod, yn broblemus. Mae’n derm hynod gymharol, sydd yn dibynnu ar ffactorau eraill o’i gwmpas. Os yw cerddoriaeth yn amgen, neu os yw’r diwylliant yn danddaearol, rhaid cael ‘norm’ i wthio yn ei erbyn, a rhaid cael rhywbeth sydd uwchben y ddaear. Er mwyn diffinio’r amgen, felly, rhaid diffinio’r ‘norm’ a’r ‘prif lif’.

Yn nhermau’r cyfnod a drafodwyd ynghynt, Sŵnami, Candelas ac Yws Gwynedd yw’r prif lif. Ond, mae hynny’n trin y Sîn Roc Gymraeg fel ffenomen sydd yn gweithio’n annibynnol heb unrhyw ddylanwad arall arni. Nid oes unrhyw ffan o’r sîn hyd y gwn i yn gwrando ar gerddoriaeth Gymraeg yn unig drwy gydol y flwyddyn, ac felly, rhaid cydnabod y diwydiant Eingl-Americanaidd mawr, brawychus hwnnw sydd yn cuddio’n y cefndir. Os mai’r diwylliant hwnnw, neu gerddoriaeth y siartiau Prydeinig yw’r prif lif, ydy holl gynnyrch cerddorol Cymraeg ei iaith yn ‘amgen’? Ydy Bryn Fôn yn canu am blwyf Llanllyfni yn ei iaith ei hun yn weithred radical, rwan, gan nad yw’n cyd-fynd â’r norm? Nac ydy siŵr, ‘dw i’n clywed hipsters y wlad yn ei ddweud.

Oes angen trafodaeth am genre yma felly? Ai canon roc clasurol, y dynion a’r gitârs yw’r norm? Ai cerddoriaeth radio-gyfeillgar Calfari a Fleur de Lys yw’r brif afon sy’n llifo drwy ein sîn? Rhaid darganfod rhyw fath o ddynodydd seinyddol sy’n galluogi i ni wahaniaethu rhwng y prif lif a’r amgen, ond mae’n hynod anodd gwneud hynny. Heb os, ni fuasai unrhyw un yn mentro cyhuddo Adwaith o fod yn rhan o unrhyw brif lif, ond eto, caneuon ag offeryniaeth draddodiadol, a chaneuon pop tri munud â nifer cyfyngedig o gordiau ydyn nhw i bob pwrpas. Nid oes modd tynnu’r gerddoriaeth allan o’i gyd-destun, fodd bynnag, ac mae’r geiriau a’r neges a chaiff ei chyfleu yn gymaint o ran o’r pecyn â’r nodweddion cerddorol hyn. Ond, rydym yn parhau i fethu ateb y cwestiwn.

Oes rhaid meddwl yn all-gerddorol, felly? Oes rhaid neilltuo’r hyn yr ydym ni yn ei glywed a chanolbwyntio ar bwrpas a gwerth y gerddoriaeth? Mae’n gwbl rhesymol i awgrymu bod cerddorion amgen yn barod iawn i gysylltu eu hunain â’r term hwnnw. Mae cerddor ‘amgen’, yn aml, yn llawer mwy parod i ddatgan ei phwrpas/ei bwrpas o fewn sîn, ac mewn ffordd, yn gorfodi’r gynulleidfa i’w gosod/i’w osod yn y math hwnnw o gategori. Er enghraifft, un o’r cwynion mwyaf oedd gan Datblygu yn ystod eu dyddiau cynnar oedd y ffaith nad oedd BBC Radio Cymru yn rhoi sylw haeddiannol iddynt. Ond y gwirionedd yw, roedd hynny’n siwtio’r grŵp a’u meddylfryd, gan eu bod yn gosod eu hunain ar wahân i ddiwylliant traddodiadol y wlad. Ydy grŵp yn gorfod datgan eu bod yn ‘amgen’, rhywsut, iddynt gael eu hadnabod felly?

Gellir mynd i siarad am ‘ddilysrwydd’ [‘authenticity’], wedyn. Mae’n rhaid cael cydnabyddiaeth gan gyd-gerddorion a’r wasg amgen er mwyn cadarnhau lle’r artist yn y byd hwnnw. Gyda hyn, daw y perygl o ‘werthu allan’, pe bai’r artist hwnnw’n mynd yn rhy boblogaidd, neu’n bradychu unrhyw elfen o’r byd tanddaearol.


Yr ateb, mewn gwirionedd, yw bod y term cymharol hwn yn gwbl ddi-werth wrth geisio ei ddefnyddio yn rhy gyffredinol. Rhaid cael rhywbeth penodol, rhyw ddynodydd amlwg, i gymharu ag ef er mwyn deall yr ‘arall’, neu’r ‘amgen’. Mi ddywedodd rhywun wrthaf i, sydd yn ffan mawr o gerddoriaeth Gymraeg, mai gair 2017 yw ‘amgen’, ac rwy’n gweld yn union beth mae’n ei olygu. Iddo fo, mae grwpiau newydd 2017 yn gwrthwynebu neu’n cynnig rhywbeth gwahanol i’r hyn ddaeth ynghynt. Iddo fo, felly, cerddoriaeth cyfnod yr indie kids yw’r prif lif, a cherddoriaeth 2017 yw’r ‘amgen’. Yn syml – er mwyn diffinio’r amgen, rhaid diffinio’r prif lif yn gyntaf.


Y ‘Siart Amgen’

RHys

Llun: BBC

Mae Siart Amgen Rhys Mwyn yn amlwg yn rhyw fath o gefnder mwy ‘edgy’ i’r 40 Mawr, y siart a gyhoeddir yn flynyddol ym mis Awst. Pwrpas y 40 Mawr yw i ddarganfod hoff gerddoriaeth Gymraeg y boblogaeth, a thrwy annog pobl i bleidleisio am dair o’u hoff ganeuon, ceir yma adlewyrchiad o dueddiadau gwrando cyffredinol y pleidleiswyr hyn. Er y gellid dadlau nad yw gosod canolfannau mewn dwy Eisteddfod a’r Sioe Frenhinol yn adlewyrchu Cymry Cymraeg o bob math, dyma yw’r prif lif y mae Rhys Mwyn yn gosod ei hun yn ei erbyn yn yr achos hwn.

Gan nad ydym ni wedi gosod diffiniad pendant i ‘gerddoriaeth amgen’, mae rhywun yn pendroni sut mae penderfynu ar amodau’r siart hwn. Ni allai unrhyw un honni mai ‘unrhywbeth sydd ddim yn y 40 mawr’ yw’r amod – roedd ennillwyr siart y llynedd, sef Y Cyrff, yn rhif 25 yn y 40 mawr hefyd. Felly, ydym ni’n gorfod dechrau siarad am ‘gerddoriaeth dda’ (‘good music’), yma? Ai’r gwybodusion, y ‘cerddorion a’r gwrandawyr go iawn’ sydd yn gyfrifol am y siart amgen hon? Er ei bod yn ceisio tynnu’n erbyn y graen, ac er y ddelwedd werinol, gwrthsefydliadol, ydy hyn, yn eironig, yn weithred uchel ael?

Mae’r prif lif, sef y 40 Mawr a’r hyn a geir ei chwarae ar Radio Cymru yn ystod y dydd, yn gwbl amlwg ac eglur. Fodd bynnag, mae penderfynu ar ddilysrwydd cynnwys cerddorol y Siart Amgen ei hun yn llawer mwy amwys. Does dim ond rhaid gwrando ar ddewisiadau Ani Glass ar y rhaglen, yma, i ddod i ddeall hyn. Mae’r drafodaeth i gyd, bron, am ddiffinio’r prif lif, yn hytrach na’r amgen. Yn wir, mae hi’n dewis fersiwn Llwybr Llaethog o un o ganeuon Meic Stevens, ac er bod cerddoriaeth y ‘swynwr o Solfach’ yn anodd i ddiffinio ei hun, mae’n deg i awgrymu bod Llwybr Llaethog yn agosach o lawer at y pegwn ‘amgen’ hwn. Defnyddir yr un gân, yr un geiriau a’r un alawon, ond rŵan, caiff y gân ei gosod mewn amgylchedd, sefyllfa a chyd-destun gwbl wahanol. Llwybr Llaethog, eu hideoleg a’u raison d’être hwy sydd yn gyfrifol am osod y rheolau yma, rŵan, nid Meic Stevens, ac felly caiff yr ‘amgen’ ei ail ddiffinio unwaith eto.


Y Siglen

I gadw’r cydbwysedd cosmig hwn sydd mor anodd i’w weld, ei ddiffinio a’i werthuso, mae’n rhaid i’r prif lif a’r amgen gario ymlaen i wthio yn erbyn ei gilydd, a chreu siglen fregus. Dim ond gronyn bach o egni sydd ei angen i wyro’r siglen tuag at un pegwn neu’i gilydd, ond eto, mae darganfod y siglen hwnnw yn y lle cyntaf bron yn amhosib. Oes mwy nac un siglen, yn dibynnu ar yr amgylchedd a’r cyd-destun?

Yr hyn y mae’r erthygl hon yn ceisio ei brofi, yw’r ffaith bod hynny’n ddewis unigolyddol, ac yn ddewis sydd yn dibynnu ar nifer fawr o ffactorau. Bydd y siart amgen yn creu ei gofod ei hun, ei chyd-destun ei hun a’i reolau ei hun, felly, fydd yn creu diffiniad newydd o’r gair ‘Amgen’ ar ei chyfer. Er mai mwynhau’r tiwns fyddwn ni, does dim byd yn bod mewn ceisio meddwl ychydig yn athronyddol cyn y Nadolig fel hyn!

Er mwyn sicrhau y bydd y siart yn deg ac yn adlewyrchu amrywiaeth mewn meddylfryd, amrywiaeth yng nghefndiroedd y pleidleiswyr, a hefyd, amrywiaeth yn y gerddoriaeth ei hun, mae’n rhaid i ni gyd bleidleisio. Gallwch wneud hynny drwy ebostio rhysmwyn@bbc.co.uk.

Gwyliwch allan hefyd am ddewisiadau amgen a phleidleisiau cyfranwyr SaS, fydd yn cael eu cyhoeddi wythnos i heddiw!

Adolygiad: Gig Y Niwl, Omaloma, Ffracas a Pasta Hull – Pontio, Bangor

Dau, nid un, o gyfranwyr Sôn am Sîn sydd oedd gyfrifol am adolygu gig Y Niwl, Omaloma, Ffracas a Pasta Hull yn Pontio wythnos diwethaf. Ydy Gethin Griffiths ac Owain Williams cytuno â’i gilydd…?

Pontio

GETHIN GRIFFITHS / OWAIN WILLIAMS

GG

Am ryw reswm, pan mae Pontio’n trefnu rhywbeth, mae rhywun yn mynd i drafod y lleoliad o hyd. Mae hynny o ganlyniad i’r holl drafferthion anffodus a gafwyd yn ystod y dyddiau cynnar, ac mae rhywun yn mynd i fod yn or sinigaidd. Yn dechnegol, dyma’r lleoliad gorau ar gyfer cynnal gigs yng Ngogledd Orllewin Cymru, gan eithrio Venue Cymru, efallai, ac mae’r potensial o ran sain, llwyfannu a goleuo yn ddi ben draw. Y broblem fwyaf, fodd bynnag, yw bod rhaid denu torf fawr i lenwi’r gofod, ac os nad yw’r gofod hwnnw’n cael ei lenwi, mae rhywun yn mynd i deimlo’n eithaf swil ac ymwybodol iawn o’i hun. I mi, roedd y nifer a ddaeth i wylio Y Niwl, Omaloma, Pasta Hull a Ffracas yn nifer parchus iawn, ac mewn nifer o leoliadau eraill, buasai rhywun yn ystyried y gig i fod yn llwyddiant ysgubol o ran cynulleidfa. Fodd bynnag, mae’n bryd i ni symud ymlaen o boeni am bethau felly, ac mae’n bryd i ni gychwyn cefnogi Pontio fel lleoliad pwysig i fandiau gael perfformio. Mae’n rhaid cynnal nifer fawr o gigs yn aml er mwyn cadarnhau lle’r ganolfan fel venue, ac mae’n rhaid bod yn barod i ddenu cannoedd i un gig ac yna degau yn unig i’r gig nesaf. Dyna yw natur gigs.

Y peth mwyaf od am y gig oedd y ffaith bod nifer fawr o’r gynulleidfa naill ai’n eistedd ar yr ochrau neu’n sefyll yn y cefn. Mae hyn yn gwbl arferol, wrth gwrs, ac nid yw pobl yn tueddu i fynd i’r blaen ar ddechrau’r gig. Ond, rwy’n siŵr y buasai llawer o’r unigolion hynny, oedd wedi talu £12 am docyn, wedi’r cyfan, wedi gwerthfawrogi ychydig mwy o gyfathrebu ar ran yr artistiaid. Dyma oedd prif wendid y noson, yn fy marn i, ac er bod y noson i fod yn gyfle i ymlacio i gerddoriaeth amgen, mi fuaswn i wedi gwerthfawrogi petai’r artistiaid wedi cyfarch y gynulleidfa rhyw ychydig – hyd yn oed drwy ambell reg achlysurol neu drwy bledu abiws atom ni. Mi fuasai hynny wedi llacio pethau ac, efallai, wedi gwneud i ni ymlwybro tua’r blaen yn gynharach.

Wedi dweud hynny, mi wnes i, ac Owain, fwynhau’r perfformiadau cerddorol. Dyma ein dadansoddiad ni o bob grŵp, felly!


Pasta Hull

OW

Pan yr ydw i’n meddwl am Pasta Hull, nid Pontio yw’r lleoliad cyntaf sy’n dod i’r meddwl. Anaml yr ydych chi’n gweld band arbrofol yn cyflwyno cymysgedd o arddulliau sy’n ymestyn o seicadelia i ffync ac, i ryw raddau, reggae-techno hefyd. Dyma ble y daeth llwybrau Pontio a Pasta Hull ynghyd. Mae crynhoi neu chategoreiddio sain y band yn profi’n anodd – ac i mi, dyma dynnodd fy sylw a fy nghyffroi ar y noson. Er fy mod yn credu bod agwedd ymylol y band yn gweddu i adeiladau ‘tywyllach’ eu natur yn well, roedd eu set fel awyr iach. Bosib eu hagwedd anghyffredin o fewn y sîn gerddoriaeth Cymraeg heddiw sy’n derbyn sylw ond mae rhaid pori o dan yr arwyneb i werthfawrogi amrydedd eu cerddoriaeth. I mi, roedd eu set yn profi nad band sydd ag enw dadleuol a mix heriol am Bryn Fôn yn unig yw Pasta Hull, ac mae’r brodyr, Llyr ac Owain Jones, yn creu arddull cerddorol hynod drawiadol. Wrth wrando ar eu demos ac ar ganeuon oddi ar eu halbwm ‘Achw Met’ mae’n amlwg bod gan y geiriau naws creadigol a phersonol iddynt ond hefyd gwreiddiau a phwrpas, yn debyg i fandiau o’r 80au hwyr fel Ffa Coffi Pawb.

Pasta Hull agorodd y noson, ac er doedd Pontio ddim wedi’i drydanu, roedd y gân ‘Jam Heb Siwgr’ yn sicr yn meddiannu ffocws a sylw’r gynulleidfa ac yn annog gwrandawiad mwy astud. Roedd eu defnydd o’r bongos yn nodweddiadol o’u perfformiad byw ac yn selio’r sain amrwd/garej. Amlygai hyn yn bennaf yn ystod ‘Bulletproof Funk’ a ‘Cacan Ffenast’. Hon oedd y tro cyntaf imi weld Pasta Hull yn fyw ac yn ddi ffuant, daliwyd fy nychymyg. Achw met.


Ffracas

GG

Mi’r ydw i wedi siarad yn ffafriol am Ffracas erioed, ac er nad ydynt wedi bod mor gynhyrchiol yn 2017 ag yr oeddwn i’n ei ddisgwyl, mae’r dyfodol yn parhau i fod yn ddisglair iddynt. Yr hyn a’m tarodd am y band o’r dechrau yw eu hyder a’u parodrwydd i neilltuo ei hunain oddi wrth eu cyd fandiau, a dyma oedd eu cryfder yn y gig hwn. Roedd y ddelwedd indie yn treiddio drwy eu gwythiennau, ac roedd y pedwar yn edrych yn gwbl gyfforddus ar lwyfan.

Doeddwn i erioed wedi gweld Ffracas ar lwyfan mor fawr gyda phrosesu mor gymhleth, chwaith, ac mae’n rhaid i mi ddweud fy mod wedi eu mwynhau gyda llawer o reverb. Mi wnaeth yr holl beth fy atgoffa o fynd i ŵyl Dot to Dot ym Manceinion, a’r math o ddelwedd a grëwyd gan fandiau fel The Night Café yno. Yr unig beth sydd angen rwan ydi magu perthynas agosach â’r gynulleidfa, ac efallai, denu mwy o’u ffrindiau i ddod i foddi’r blaen â’u chants meddw.


Omaloma

GG

Yn ystod ‘Aros o Gwmpas’, mi ddywedodd ‘na rywun wrtha’ i.. ‘Ma pawb yma achos o un gân. Ma pawb yma i glwad hon’. Er fy mod i’n siŵr nad ydy hynny’n gwbl wir, mi’r ydw i’n gweld yn union pam y buasai rhywun yn dweud hynny. Mae Omaloma wedi dwyn ein sylw eleni, a gyda phob trac newydd, mae pawb yn gwirioni o’r newydd hefo’r tiwns. Mae cerddoriaeth atmosfferig, hypnotaidd, yn gyfarwydd iawn i ni ers blynyddoedd erbyn hyn, ond mae George Amor a’i fand cefndirol wedi cyfuno’r seiniau hyn â chaneuon sydd yn ddigon bachog i ddwyn cynulleidfa newydd. Rhywsut, mae’n plesio’r gynulleidfa amgen, ac yn gallu troi pennau ambell un sydd ddim mor eithafol eu blas.

Roedd ‘na ochenaid yn dod o’r gynulleidfa bob tro’r oeddent yn dechrau cân newydd, ac roedd rhywun yn sylwi eu bod nhw’n adnabod y rhan fwyaf o’r caneuon rywsut neu’i gilydd. Mae ‘Eniwe’ yn parhau yn ffefryn personol i mi, am ryw reswm, ac felly honno dderbyniodd fy ochenaid i. Wedi dweud hynny, mi nes i anghofio pa mor dda oedd ‘Dylyfu Gen’ hefyd…

Y peth mwyaf trawiadol am Omaloma oedd pa mor ddiymdrech yr oedden nhw’n edrych ar y llwyfan. Fel band profiadol, mae George Amor, Gruff ab Arwel, Dafydd Owain a Llyr Pari wedi hen arfer creu seiniau amrywiol ar lwyfan, ond y tro hwn, roedd pawb eisiau bod yn rhan o’r hwyl. Mae’n bryd i George sylweddoli bod ganddo fo’r gynulleidfa yn ei ddwylo, ac mi allai ddefnyddio hynny i’w fantais drwy beidio bod mor ddiymhongar!

Erbyn ‘Aros o Gwmpas’, mi ddaeth y pedwar ynghyd i ymgynnull o gwmpas Nord Electro George, oedd yn fy atgoffa ychydig o lwyfannu arbrofol Meilyr Jones ar yr un llwyfan flwyddyn diwethaf. Efallai bod angen chwarae ychydig mwy hefo’r sioe lwyfan erbyn y tro nesaf, i ni gael mwynhau’r space pop ar lefel goruwchnaturiol.


Y Niwl

OW

Yn dychwelyd o’u hiatus gyda chasgliad newydd o ganeuon syrff-roc, syml a llawn llinellau gitâr bachog oedd ‘Y Niwl’. Lansiwyd eu halbwm diweddaraf 5 mewn dwy gig amgen eu natur yng Nghlwb Ifor Bach (Twrw) nos Wener ac ym Mhontio nos Sadwrn. Yn ddisgwyliedig, doedd y gig hon ddim am fod yn drydanol – ond yn hytrach yn un cŵl a hamddenol, a chadarnhaodd ‘Y Niwl’ yn union hyn. Y peryg sy’n gysylltiedig â bandiau offerynnol yw eu bod yn wych mewn cyfnodau bychain ond yn colli eu heffaith wrth i’r set barhau, a gallai ymddangos yn ailadroddus. Er bod yr elfen hon i raddau’n wir nos Sadwrn (fy mai i o bosib gan nad oeddwn wir yn gyfarwydd â’r cynnyrch newydd), roedd y trefniadau golau, mwg a fidio yn cynnal diddordeb wrth ddisgwyl yn amyneddgar am eu tiwn fwyaf, heb os, sef ‘Undegpedwar’. Er dydi’r albwm ddim yn cynnig arddulliau o’r newydd nac yn mentro ar steil anghyffredin, roedd perfformiad retro ac ymlaciol ‘Y Niwl’ wedi llwyddo i hypnoteiddio’r gynulleidfa.

 

Adolygiad: Gig TWRW #4 – Y Niwl / Mellt / Papur Wal

Rhys Dafis, blogiwr newydd i Sôn am Sîn, yw awdur adolygiad olaf y gyfres hon o gigs yng Nghlwb Ifor Bach. 

22791584_1845074048840140_2592352067176566240_o

Llun: Nadine Ballantyne

RHYS DAFIS

Es i mewn i’r gig yma ddim yn siwr iawn beth i’w ddisgwyl. Dyma oedd gig cyntaf Papur Wal, ac er fy mod i’n ddigon cyfarwydd â Mellt, doeddwn i ddim yn or-gyfarwydd â’r Niwl chwaith. Fodd bynnag, cefais i ddim fy siomi.


Dechreuwyd y noson gan Papur Wal. Ro’n i wedi mwynhau’r demos ar eu cyfrif soundcloud, ond doeddwn i ddim yn disgwyl rhyw lawer ganddynt ar y noson am taw dim ond eu gig cyntaf oedd hi. Er gwaethaf hyn, cefais fy mhrofi’n hollol anghywir. Er eu bod yn amlwg yn eithaf amrwd, wnes i fwynhau eu set yn fawr. Roedd y caneuon yn amrywio mewn steil yn ddibynnol ar bwy oedd yn canu, gyda’r Cyrff yn amlwg yn ddylanwad mawr. Roedd lleisiau gwahanol Ianto a Gwion yn ychwanegu haen arall o amrywiaeth i’r set (a chameo athrylithgar Tom ar y bongos yn goron ar y cyfan). Dwi’n meddwl ei bod hi’n helpu i gymaint o bobl ddod i’w gwylio – anghyffredin am fand cynta’r noson, ond wastad yn braf gweld. Maen nhw’n ychwanegiad ffres i’r Sin Amgen Gymraeg, a dwi’n edrych mlaen i weld sut y byddan nhw’n datblygu dros y misoedd i ddod.


Nesaf, roedd set Mellt. Roedd hi ychydig yn od gweld Elis y basydd yn eistedd ar stôl ar ôl anafu ei droed, ac roeddwn i’n poeni ychydig y byddai hyn yn effeithio ar berfformiad band sydd fel arfer mor fywiog ar y llwyfan. Unwaith eto, roedd fy mhryderon yn ddi-sail, ac roedd y band o Aberystwyth mor egnïol a’r arfer. Dwi ddim yn cofio’r tro dwetha i fi weld perfformiad gwael ganddyn nhw! Fe rasion nhw drwy’r set, gydag ambell cover fan hyn a fan draw, cyn gorffen ar yr hen ffefryn ‘Cysgod Cyfarwydd’. Dwi’n gobeithio welwn ni nhw’n rhyddhau rhywbeth newydd yn y dyfodol agos.


Yn cloi’r noson roedd Y Niwl. Dwi ond wedi gwylio’r Niwl unwaith o’r blaen, a dwi heb wrando lot ar eu halbyms, ond er gwaethaf hyn oll roedd pob cân yn swnio’n gyfarwydd. Dwi ddim yn siwr os yw hyn oherwydd i fi glywed y caneuon ar y radio, neu bod eu caneuon nhw wedi treiddio i fy isymwybod rhyw ffordd arall. Ta beth, wnes i fwynhau eu set nhw yn fawr iawn, ac roedd y dorf i weld o’r un farn. O’n i’n methu helpu meddwl petawn i’n ysgrifennu ffilm Gymraeg y byddai hanner y trac sain wedi’i wneud o ganeuon surfy Y Niwl – mae ‘Dauddegun’ yn syth o soundtrack film Tarantino. Roedd caneuon eraill lle roedd y synth yn fwy amlwg yn cael y dorf i symud, ac yn codi yn y diwedd i grescendo gorffwyll. Roedd hon yn noson dda iawn arall o gerddoriaeth amgen Gymraeg, a dwi’n gobeithio gweld y tri band yma yng Nghaerdydd eto’n fuan.

Adolygiad: Gig TWRW #3 / FEMME – Adwaith / Marged / Serol Serol

Adwaith
GETHIN GRIFFITHS

Anaml iawn y bydda’ i’n cerdded o gig yn meddwl mwy am fodolaeth y gig yn hytrach na’r cynnwys cerddorol. Anaml iawn y bydda’ i’n cerdded o gig yn meddwl am unrhywbeth heblaw am sut oedd yr hyn a glywais wedi fy ngwneud yn berson gwahanol i’r hyn oeddwn i cyn cerdded drwy’r drws. Fodd bynnag, roedd yr argaff gafodd gig FEMME arnaf i yn llawer mwy na’r gerddoriaeth.

Mae pawb a oedd yn yr ystafell wedi bod mewn nifer fawr o gigs gyda phob aelod o bob band yn ddynion, heb os. Does yna neb erioed wedi trefnu gig pwrpasol ar gyfer dynion yn unig, ond o ganlyniad i’r anhafaledd sylfaenol sydd yn perthyn i gymdeithas, er gwaethaf pa mor rhyddfrydol y gallai hi fod, norm anheg yn yr isymwybod ydy hynny. Mewn byd delfrydol, bydd rhywun yn gobeithio y gellid trefnu gigs gyda phawb o bob rhyw, cefndir a phersonoliaeth yn gymysg ac yn hafal, ond mae amherffeithrwydd ein byd ni rwan yn golygu bod rhaid gwneud y cam cyntaf, pragmatig, hwn, o drefnu gig o’r fath.


Drwy gysylltu lein-yp â chysyniad ‘angherddorol’, fel y cyfryw, mae disgwyl i’r artistiaid fod yn amrywiol yn eu harddulliau a’u delwedd. Mae Adwaith a Serol Serol yn ddau fand sydd wedi dwyn llawer o’r sylw ar y cyfryngau cymdeithasol, yn ogystal â rhaglenni Radio Cymru, eleni, ond doedd nifer o’r gynulleidfa heb gael cyfle i’w gweld nhw yn fyw o’r blaen. Roedd hyn yn wir am Serol Serol, yn enwedig, gan mai dyma oedd eu gig cyntaf nhw erioed. Gallwch ddadlau, felly, fod chwilfrydedd yn rywbeth a oedd yn linyn cyswllt i’r artistiaid yn hytrach na’u hardulliau cerddorol, ac roedd yn gyfle iddynt brofi eu gwerth ar lwyfan byw.

Y grŵp cyntaf ymlaen i ddiddanu cynulleidfa eiddgar, a oedd yn gymysg o fyfyrwyr a chriw ychydig yn hŷn, oedd Serol Serol, y ddeuawd o Ddyffryn Conwy. Er mai Leusa a Mali yw prif ffocws y band, doedd dim cuddio’r ffaith mai tri bachgen oedd yn cyfeilio iddynt. Mae George Amor (synth), Llŷr Pari (gitâr) ac Alex Morrison (bâs) yn enwau cyfarwydd iawn yn y byd pop seicadelig, ac mae llawer o’r bandiau mwyaf cynhyrchiol ar hyn o bryd yn cynnwys rhyw gyfuniad o’r tri aelod mewn rhyw fodd. Roedd hynny’n cynnig cefnogaeth brofiadol i’r ddwy, a oedd, wedi’r cyfan, yn perfformio yn eu gig cyntaf erioed. Mae’r ddelwedd yno’n barod, ac er bod y ddwy wedi cyfnewid rôl o ran lleisio mewn ambell gân, roedd yr hyn a glywyd yn fyw yn ailgynhyrchiad a oedd yn ddigon agos i’r traciau a oedd wedi ein swyno ar y radio. ‘Cadwyni’ ac ‘Aelwyd’ yw’r unig ddwy gân sydd wedi cael eu rhyddhau hyd yn hyn, ac o ganlyniad i hynny roedd rhan fwyaf y set yn gwbl ffres i’n clustiau ni i gyd. A dweud y gwir, creaduriaid eitha tebyg i’r ddwy gân honno oedd y gweddill, ond teyrnged i gryfder space pop fel genre yw hynny, dw i’n meddwl. Mae ‘Cadwyni’’n parhau i fod yn ffefryn, fodd bynnag, ond ‘dw i’n edrych ymlaen at glywed gweddill eu set wedi cael eu recordio’n fuan. Er bod yna waith i’w wneud ar gyfathrebu a magu hyder o flaen y meicroffon, mae’n debyg mai’r peth y gwnes i fwynhau fwyaf am berfformiad y ddwy oedd y ffaith nad oeddent yn gorwneud yn lleisiol, oedd yn hynod addas i’r math hwn o gerddoriaeth. Dim ond gigio yn gyson yw’r ffordd ymlaen iddynt rwan.


Rhwng Serol Serol a phrif artistiaid y noson, Adwaith, cafwyd perfformiad lleisiol trawiadol gan artist ifanc o Gaerdydd. Ddim ond ar ôl i rywun sôn bod Marged yn ferch i Delwyn Siôn, y canwr-gyfansoddwr profiadol, y gwnes i sylwi hynny, ac felly roedd fy nghynsail i i’w pherfformiad yn gwbl glir. Er fy mod yn gwerthfawrogi camp lleisiol Marged, a oedd yn ddigon mawr a hyderus i chwarae llwyfannau llawer mwy na Chlwb Ifor Bach, roedd y gerddoriaeth ychydig yn rhy poppy i mi, a dydw i ddim yn tueddu i allu cysylltu ag artist sydd yn defnyddio trac cefndirol yn unig yn yr un modd ag artist â band yn cyfeilio iddynt, am ryw reswm. Mater personol i mi yw hynny, ac felly ni lwyddodd Marged i ddenu fy sylw drwy gydol ei set yn yr un modd a Serol Serol. Fodd bynnag, doeddwn i ddim yn rhannu fy marn â nifer fawr o unigolion eraill yn yr ystafell, gan bod y gynulleidfa yn y blaen yn amlwg yn mwynhau’r hyder, yr egni, a’r llais enfawr, a oedd yn bregeth yn yr isymwybod ein bod yn cyflawni rhywbeth hynod bwysig.

Rydym ni wedi ysgrifennu droeon am bwysigrwydd Adwaith i’r sîn. Doedd na ddim band gwell o ran eu symboliaeth i orffen noson o’r fath, ac roedd eu gallu i greu synnwyr o bŵer a balchder yn y gynulleidfa fenywaidd o’u blaenau i’w edmygu’n fawr. Maen nhw wedi datblygu eu cymeriad yn sylweddol ers rhyddhau eu sengl cyntaf, ‘Pwysau’, ac erbyn hyn, mae’r caneuon yn gwbl gignoeth ac yn llosgi ein cydwybod tan mae ein hesgusodion gwan yn anweddu. Mae’r gân ‘FEMME’, oedd bron fel trac teitl i’r noson, yn enghraifft perffaith o hyn. Wedi dweud hynny, dydw i ddim yn or hoff o’r gerddoriaeth ei hun ar brydiau, ac yn meddwl bod lle iddynt ymestyn ar yr hyn y maent yn ei wneud â dilyniant cordiau a gweadau gwahanol. Rydw i wedi bod yn gwrando ar St. Vincent yn ddiweddar, sydd yn enghraifft gwych o blethu geiriau crafog â cherddoriaeth bop sydd yn cynnig rhywbeth gwahanol i’n clustiau ni. Fodd bynnag, nid dyma oedd yn bwysig ar yr ennyd hon, ac roedd egni’r ystafell yn amlwg yn newid yn gyfangwbl yng nghwmni’r tair o Sir Gaerfyrddin. Diddorol oedd sylwi, hefyd, bod Gruff, sefydlydd Libertino, yn chwarae bâs i un o’u caneuon nhw, a oedd yn rhyddhau Gwenllian i fynd i chwarae’r synth. Wrth gwrs, nid yw hyn yn gweithio o gwbl yn y tymor hir, ond efallai y buasai ychwanegu un ferch ar y synth, neu aildrefnu o ryw fath yn gweithio, gan i’r sain oleuo yn sylweddol gydag offeryn ychwanegol.

Mae’n RHAID i mi roi sylw, hefyd, i’r DJs, sef Gwenno a Patblygu (Ie, Pat o Datblygu), a lenwodd pob bwlch yn wirioneddol wych. Roedd yn rhaid i mi ofyn i Pat ar y diwedd beth oedd ei thrac olaf (oedd wedi gwneud i mi golli fy hunan barch gyda fy nawnsio).. ac wrth gwrs, roedd yn arwyddocaol mai enw’r trac oedd ‘Girl in a Sports Car‘.


Roeddwn i’n ymwybodol fy mod i wedi bod yn rhan o rywbeth pwysig iawn y noson honno wedi i mi adael. Ai gig i mi oedd y noson hon? Mae hynny’n ddiddorol, gan mai’r prif effaith gafodd y noson arnaf i oedd sylweddoli pŵer yr ymgyrch hon o godi hyder ymysg merched a hybu ac annog hafaledd. Yn eironig, felly, mi oedd y gig ar fy nghyfer i gan fy mod yn dysgu rhywbeth hanfodol am y diffyg nosweithiau o’r fath a fuodd dros y blynyddoedd diwethaf, a’r diffyg cerddorion benywaidd nad oedd yn cael eu hannog i chwarae mewn bandiau, heb sôn am drefnu gigs iddynt. Oedd, mi’r oedd gen i lawer o bethau bach cerddorol a fuaswn i wedi hoffi ei drafod a’i ddadlau, ond mi oedd pŵer y Femme yn llawer yn rhy gryf i mi boeni am bethau bach felly am noson.

Adolygiad: Twrw #2 – Gwilym Bowen Rhys / Patrobas / Glain Rhys

22339235_1829499517064260_8850395119911460168_o

Llun: Nadine Ballantyne

CHRIS ROBERTS

Nos Wener y 6ed o Hydref, ymysg bwrlwm mis prysur o gerddoriaeth yn y brifddinas, a’r tîm pêl-droed wedi ein hudo i freuddwydio “be os”, roedd hi yn mynd i fod yn dasg anodd i ddenu cynulleidfa i Clwb Ifor Bach ond roedd criw bach, parod i wrando, wedi ymgynnull ar lawr gwaelod y clwb eiconig am noson o gerddoriaeth werin Gymraeg.

Fe gyrhaeddon ni hanner ffordd drwy set Glain Rhys ond o be welais i roedd hi’n wych. Gyda Carwyn a Marged yn fand tu ôl iddi roedd Glain yn edrych yn llawer mwy cyfforddus a hyderus na pan welais i hi ar ei phen ei hun yng Nghaernarfon ychydig fisoedd yn ôl. Mae gan Glain lais a phresenoldeb sydd yn hawlio sylw, roedd ‘Gêm o Genfigen’ o’r albwm Sesiynau Stiwdio Sain yn sefyll allan yn y set, ac yn swnio fel ei bod hi wedi ei chodi’n syth allan o ffilm western. Wrth iddi gario ‘mlaen gigio a thyfu mewn hyder ac i gynulleidfaoedd ddod i adnabod ei chaneuon gall Glain fod yn un o sêr y sîn yn ystod y blynyddoedd nesa.

Nesaf, daw Patrobas. Mae Patrobas yn fand prysur iawn yn gigio ar hyd a lled y wlad ac mae hynny yn dangos. Maent yn dynn ac yn broffesiynol. Mae arddull y set yn symud o Calan i Cowbois Rhos Botwnnog i John ac Alun ac yn ôl. Tra bod y band yn perfformio’r holl ganeuon yn wych ar brydiau, mae’n anodd iddynt fynd a’r gynulleidfa ar y daith honno hefo nhw wrth iddynt gynnal y fath amrywiaeth yn eu set. Caneuon oddi ar eu halbwm cyntaf, ‘Creithiau’ a ‘Paid Rhoi Fyny’ sydd yn sefyll allan heno. Mae yno ddawn ysgrifennu arbennig yn y band ac mae’r caneuon yma yn swnio fel y gallent aros yn ffefrynnau am amser hir.

Yr olaf i’r llwyfan ydi Gwilym Bowen Rhys, ac fel Patrobas, mae’n amlwg pa mor aml mae Gwilym a’i fand yn gigio gyda’i gilydd gan eu bod yn dynn ofnadwy, a’r perthynas cryf rhyngddynt yn amlwg. Doedd dim oedi o gwbl wrth i’r band orfod byrfyfyrio tra bod Gwilym yn trwsio llinyn eu gitâr yng nghanol y set, roedd bron fel eu bod nhw’n gallu cyfathrebu yn telepathic! Mae Gwilym yn un o ddynion blaen gorau’r sîn, mae ganddo lais anhygoel ac mae’n siarad yn naturiol a hyderus hefo’r gynulleidfa heb or-wneud. Mae set Gwilym yn gymysgedd o ganeuon gwerin traddodiadol, ffefrynnau modern a chaneuon gwreiddiol, rhai sydd bellach yn hawlio eu hunain fel ffefrynnau. Un siom i mi oedd clywed ‘Bachgen bach o dincer’ am yr ail waith y noson honno yn ystod set Gwilym ar ôl i Patrobas ei pherfformio hi ynghynt. Nid dyma’r tro cyntaf i mi weld y ddau fand yn perfformio’r ‘run caneuon ar yr un noson chwaith yn anffodus. Dylai bod gwell cyfathrebu rhwng y bandiau cyn y sioe, a gyda chatalog mor eang ac sydd gan Gwilym a’i fand efallai y gallent hwy fod wedi newid eu cynlluniau ar ôl set Patrobas. Er hynny roedd y gynulleidfa wrth ein boddau yn cyd-ganu i ganeuon y band. Fe wnaeth cerddoriaeth gwerin wir gadael ei farc ar TWRW’r noson yma!

Slacyrs, 6 Music, a Happy Gathering Canton

Rhwng adolygu ail gig Twrw ar y dydd Gwener, a mynd i gefnogi’r tim cenedlaethol (er gwaethaf eu hanlwc) ar y dydd Llun, roedd gan y ddau ohonom amser rhydd i’w dreulio yn y Brifddinas. Roedd yn gyfle naturiol, felly, i ni fynd am sgwrs hefo un o’n hoff fandiau newydd sydd wedi eu lleoli yno.

Screen Shot 2017-10-15 at 15.33.42.png

GETHIN GRIFFITHS

‘Doeddwn i erioed wedi clywed am y Flora cyn ychydig wythnosau yn ôl. Nid yw hynny’n syndod, ‘chwaith, gan mai dim ond yn ddiweddar y bu iddo gael ei drawsnewid o fod yn dafarn leol ddirodres i fod yn un â’i golwg ar ddenu hipsters glannau Tâf. Mewn ardal fel Cathays, sydd yn frith o fyfyrwyr, roedd y beint rhesymol a’r bwyd syml yn berffaith ar gyfer eu clientele, a gallwch dicio waliau pren a hen ddodrefn ail law oddi ar eich rhestr o’r hyn yr ydych yn disgwyl ei weld mewn lle o’r fath, hefyd.

Tu allan, fel y gallwch ddisgwyl, mae gardd gwrw fechan, gyda barbeciw, ffestŵns a hen gadeiriau car wedi eu gosod ar y llawr. Roedd popeth yn teimlo ychydig yn random. Ond, nid random oedd ein penderfyniad ni i fentro i’r fath le. Roedd Chris, fel y mae o, wedi clywed eu bod yn cynnal prynhawn o gerddoriaeth fyw, a hynny’n cynnwys ein hoff fand yn y sîn ar hyn o bryd. Yr unig beth oedd yn ein poeni, gan ystyried nad oeddem ni’n adnabod llawer o’r artistiaid eraill, nac yn gallu aros drwy’r prynhawn i gyd, oedd bod tocyn yn costio £10. Er hyn, ar ôl i Gwion, trefnydd y gig ac un hanner o’r band Roughion, hanneru’r pris, doedd ‘na ddim amheuaeth ein bod ni am fentro i’r ardd i wylio Mellt.


Allwch chi ddim cael Mellt heb daranau, meddan nhw, ond yn yr achos hwn, ni allwch gael Mellt heb… bapur wal. Mae’r triawd, sydd o Aberystwyth yn wreiddiol, wedi cymryd band newydd o dan eu hadain yn ddiweddar, ac wedi bod yn rhoi cymorth iddynt hefo’u hymgais gyntaf i recordio tiwns. Mae bechgyn Mellt wedi dod yn ffrindiau agos i Ianto Gruffydd, Guto Huws a Gwion Ifor, sydd wedi mabwysiadu’r enw ‘Papur Wal’ ar gyfer eu band hwythau. Roedd y ddau ohonom ni wedi cael ein cyffroi gan y traciau a roddwyd i fyny ar SoundCloud ganddynt, sef ‘Anghofia Dy Hun (ar Fora dydd Llun)’ a ‘Brian Damagé’, ac eisiau gwybod llawer mwy am y feddylfryd y tu ôl i’r caneuon hyn. Y ffordd orau i drafod, heb os, oedd dros beint, ar ôl gwrando ar eu mentors cerddorol yn yr ardd.


Roedd Ianto a Guto, yn absenoldeb Gwion, yn barod iawn i osod eu maniffesto ac i drafod yr hyn oedd y tu ôl i’w penderfyniad i ffurfio band. Yn sicr, doedd dim angen llawer o anogaeth arnyn nhw i restru eu dylanwadau, a daeth yn amlwg iawn eu bod nhw’n ‘nabod eu miwsig. Wrth gwrs, does ‘na ddim pwynt ffurfio band heb fod yn gwrando’n rheolaidd ar gerddoriaeth, ac yn y bôn, ni ellir chwalu disgwyliadau heb wybod beth yw’r disgwyliadau hynny yn y lle cyntaf. Bu i ni gytuno na fuasai awdur yn ysgrifennu llyfr heb ddarllen, felly pam disgwyl i fand wneud hynny? Roedd y tri wedi bod yn eistedd ar y syniad o ddechrau band ers tro, ac wedi bod yn treulio oriau maith yn gwrando ac yn adeiladu stoc go dda o ddylanwadau cerddorol dros y cyfnod hwnnw. Roedd yn amlwg i mi bod yna rhyw ddiwylliant rhwng y grŵp yma o fyfyrwyr o wrando ar gerddoriaeth amgen, gan chwilio o hyd am stwff nad ydy’r mwyafrif o bobl wedi eu clywed o’r blaen, ac mi gododd hynny genfigen od, rhywsut.

‘Dw i’n meddwl ddwywaith cyn gosod band o dan genres penodol, ond y tro hwn, bu i’r hogiau wneud hynny drostom ni. Roedd y ddau yn amlwg yn barod iawn i gysylltu eu hunain a cherddoriaeth ‘slacyr-roc’, ac yn defnyddio delwedd y band coleg Americanaidd fel rhywbeth i’w anelu ato. Dydy hyn ddim yn syndod os y gwrandewch chi ar pa mor amrwd yw eu caneuon hyd yn hyn, gyda’r agwedd slacyraidd hwnnw yn gwbl amlwg. Mae’n gwneud i rhywun feddwl nad ydyn nhw’n codi o’u gwlâu tan 3 o’r gloch yn y prynhawn, a ddim yn dychwelyd tan oriau mân y bore wedyn. 6Music yw eu sianel radio o ddewis, ac roedd enwau grwpiau fel Carseat Headrest a Lemon Twigs yn codi’n aml. Wedi dweud hynny, mi gefais i fy synnu ychydig bod eu dylanwadau yn ymestyn i Os Mutantes, hyd yn oed. Doedd ‘na ddim byd gwell ganddyn nhw na cheisio ein dal ni allan hefo enwau caneuon gan y bandiau – mae ‘na rywbeth heriol o hyd am siarad hefo pobl sydd yn gwybod eu stwff!


Roedd hynny’n naturiol, felly, yn arwain i’r hogiau fod yn feirniadol o ambell fand arall yn y sîn roc Gymraeg. Roedd Ianto, wrth gwrs, yn aelod blaenorol o Fleur de Lys, ond bu iddo adael y band gan nad oedd yn hoff o’u cyfeiriad cerddorol. Mae hynny’n digwydd yn aml mewn bandiau, wrth gwrs, yn enwedig pan mae’r bandiau’n ffurfio yn ifanc. Roedd Ianto a Guto’n awyddus i bellhau eu hunain oddi wrth y math hwnnw o sŵn ac yn ceisio creu rhywbeth newydd, wedi ei anelu at gynulleidfa gwbl wahanol.

Y peth mwyaf trawiadol i mi oedd y ffaith eu bod nhw’n cymryd eu cerddoriaeth o ddifrif, ac yn cyfeirio at ganeuon amrywiol yn hyderus ac yn ddadansoddiadol, yn hytrach na’u diystyru. Perfformio’n fyw yw eu blaenoriaeth o hyn ymlaen, ac mi’r oedden nhw’n sicr bod y caneuon gorau yn dal i ddod ganddynt – felly os yw’r hyn sydd yn eu set ar gyfer gig olaf cyfres bresennol Twrw, yng Nghlwb Ifor Bach, yn well na’r ddwy gân ar SoundCloud, mi fyddan nhw’n werth i’w clywed. Er mwyn llenwi’r sain, bydd Dewi Jones, gitarydd Los Blancos, yn ymuno â nhw hefyd.

Er i’r mwyafrif helaeth o’r sgwrs fod yn gerddorol ei natur, doedd hi ddim yn syndod ein bod ni wedi gwyro rhyw ychydig weithiau. Mi’r ydym ni erbyn hyn yn gwybod yn union pa takeaways yw’r rhai gorau, a’r gwaethaf, yn ardal Cathays (a finna ddim ond hefo Chinese Felinheli i ychwanegu i’r sgwrs), a datgelwyd nad yw Ianto’n hoff o gael rhywun yn gofyn iddo symud o’i sedd. Mae’r hyn oll yn ychwanegu at bersonoliaeth heintus y tri gogleddwr yn y brifddinas, ac yn gwneud i ni gyd fod eisiau mwy o stwff ganddynt.


Yr hyn sydd ei angen ar Papur Wal rwan yw cefnogaeth label. Mewn hynny o beth, mae’r hogiau yn hynod lwcus ar hyn o bryd i gael gymaint o labeli sydd yn cyd-fynd â’r ddelwedd y maen nhw’n ceisio ei harddel, ac rwy’n siŵr na fydd rhywun yn cymryd yn rhy hir i fynnu eu llofnod.

Mi ddysgais i ddau beth y diwrnod hwnnw: Mae’n rhaid i mi wrando ar Lemon Twigs, ac nad ydw i wedi byw tan i mi gael Happy Gathering yn Canton.

Adolygiad: Twrw #1 – Yr Eira / Y Cledrau / Yr Oria

Mae trigolion Caerdydd yn hynod lwcus y mis hwn, gyda hen ddigon o ddigwyddiadau cerddorol i’w cadw’n brysur. Mae TWRW, a gynhaliwyd yn rheolaidd yng Nghlwb Ifor Bach wedi penderfynu trefnu pedwar gig mewn pedair wythnos! Aled Russell, un o’n cyfranwyr o Gaerdydd aeth draw i’r gig cyntaf yn y gyfres.

Llun: Nadine Ballentyne

22104583_1822453781102167_3175890016606546747_o

ALED HUW RUSSELL

Yn dilyn haf hir o weithio, mynd i gigs a sesho, mae’r teimlad o fod nôl lawr yn y ddinas fawr i wneud union yr un peth, er ar ochr arall y wlad, yn un croesawgar. Gyda Clwb Ifor Bach yn cynnal pedwar gig Twrw dros yr un faint o wythnosau, does dim diffyg cerddoriaeth i fwydo Cymry llwglyd Caerdydd. Nos Wener oedd tro Yr Oria, Y Cledrau ac Yr Eira i’n swyno. Yr Oria oedd gyntaf, band weddol newydd o Flaenau Ffestiniog yn cynnwys Gerwyn Murray, basydd un o fandiau mwyaf y sîn, Sŵnami. Fel rhywun sy’n anghyfarwydd gyda’u gwaith, clywais adleisiau o Yr Eira yn ogystal â Calfari yn eu cerddoriaeth. Yn sicr, bydd rhaid i mi wrando arnynt ymhellach i ddatblygu barn cadarn arnynt a gobeithiaf y byddan nhw’n cynnig rhywbeth gwahanol i’r sîn.

Y Cledrau, o’r Bala, oedd yr ail fand ymlaen. Gan ystyried pa mor fuan yn y noson oedd eu set, roedd yna dorf trawiadol wedi ymgynnull i’w gweld. Maen nhw wedi bod yn byrlymu o dan yr arwyneb am rhai blynyddoedd nawr, ac mae yna agwedd hynod adfywiol ac adloniannol am y band. Braf oedd cael clywed un o fy ffefrynnau, ‘Ail-Ailadrodd’, yn ogystal â chaneuon newydd o’u albym sydd i ddod, Peiriant Ateb. Gyda’r band yn cynnwys dau fyfyriwr o Brifysgol Caerdydd, Alun ac Ifan, dwi’n edrych ymlaen yn fawr i Ifan ddod a’i glust am gerddoriaeth a’i ddawn am falu awyr i’n sioe ar Xpress Radio flwyddyn yma. Uchafbwynt personol (yn ogystal â gweld Alun yn gwisgo trwsus PJ tartan ar y llwyfan) oedd clywed ‘Cam Wrth Ddiflas Gam’, un o’r caneuon gorau ar 5, albwm cydweithredol I KA CHING.

Yn cau’r noson oedd y pedwarawd o Fangor, Yr Eira. Ar ôl camu allan o gysgodion y sîn i ddod yn un o’i fandiau mwyaf, mae Yr Eira wedi cael blwyddyn anferthol. Yn dilyn fy nghyfweliad gyda’r band prin wyth mis yn ôl yng Nghlwb Ifor Bach, maent wedi rhyddhau eu albwm cyntaf, Toddi, yn ogystal â haf prysur o chwarae Gig y Pafiliwn, Maes B a Llwyfan y Maes. Os dwi’n cofio’n gywir – agorwyd gyda ‘Dros Y Bont’ neu ‘Gadael Am Yr Haf’ (sori, dwi’n beio’r Red Stripe). Teimlais fy haf yn cael ei gladdu gan ganeuon megis ‘Rings Around Your Eyes’ a ‘Ffiniau Anweledig’ o’u halbwm newydd, trac sain fy haf i. Diddorol hefyd oedd gweld y basydd Trystan yn cyfnewid ei gitar fas hefo Ifan ar gyfer ‘Gweld Y Gwir’, fy honiad i ydy mai cân Trystan ydy hi, ac un dda ydy hi hefyd. Gyda dim ond ychydig o anogaeth gan y dorf, ehangodd prif leisydd Yr Eira, Lewys Wyn eu set gyda datganiad byrfyfyr o ‘Elin’, clasur o’u dyddiau cynnar sy’n sicr o yrru’r dorf yn wyllt. Caewyd y noson gyda ‘Suddo’, gan osod y bar i’r tair noson arall sydd i’w dilyn dros y mis nesaf yn Clwb.

TIWNS: Elan Rhys

Adobe Spark-2

Mae rhestr TIWNS wythnos yma yn perthyn i Elan Rhys (Plu, Bendith). O Father John Misty i Alicia Keys, ac o Georgia Ruth i Fleetwood Mac, mae’r rhestr yma yn un hynod amrywiol. Ymlaciwch gydag awr ac 11 munud o bop soffistigedig.

Bydd Elan yn brysur yn ysgrifennu mwy o ganeuon hefo Plu dros yr hydref, ac yn ôl y sôn, bydd Bendith yn ôl ar ein llwyfannau ni yn y flwyddyn newydd!